Skip to content
Words Without Borders "stands as a monument to international collaboration and a shared belief in artistic possibility." — 2018 Whiting Literary Magazine Prize Citation
from the August 2019 issue

Laith y Nefoedd

Agorodd ei lygaid.

Estynnodd ei ffôn.

“Shit!” Hanner awr wedi un yn y prynhawn. Dim ei fod wedi methu apwyntiad pwysig na bore o waith. Jyst hanner diwrnod. Arall. R’un peth a ddoe. Ac echddoe a dweud y gwir. A’r diwrnod cyn hynny, mae’n siŵr. Dim ei fod yn gallu cofio’n iawn. Beiai Manon am hynny. A’r booze. Heb anghofio’r cyffuriau, wrth gwrs. Lot o bils, dim lot o thrills. Syllodd ar y nenfwd hufenfrown gan geisio canfod yr egni i lusgo’i gorff o’i gwâl. Symudodd ei dafod o amgylch ei geg. Teimlai fel papur tywod. Neu falwoden sych. Roedd ei ddannedd wedi’u gorchuddio gan haenen o blac; mor drwchus nes y gallai bron deimlo’r bacteria’n ymosod ar ei ddeintgig. Gwnaeth nodyn meddyliol i brynu brws dannedd yn y dyfodol agos. Os allai fforddio un, hynny yw. Trodd ei lygaid at y llenni. Ceisiodd golau’r dydd ei orau glas i dreiddio trwyddyn nhw, ond diolch i’r olygfa hyfryd o ali gefn gul a wal yr adeilad drws nesaf, roedd yr ymdrech yn ormod, hyd yn oed i’r haul.

Cododd o’r gwely braidd yn rhy gyflym. Gwingodd gwaelod ei gefn, gan wneud i’w ddannedd grensian. Anadlodd yn ddwfn a syrffio’r tonnau o boen, tan i’r ceffylau gwynion roi’r gorau i garlamu. Ystyriodd ymestyn ei gorff a’i gyhyrau am eiliad, ond beth oedd y pwynt. Roedd yn falch o weld ei fod yn gwisgo’r un dillad a’r diwrnod cynt. Yn enwedig y sanau am ei draed. Gwisgo sanau oedd un o heriau mwyaf ei fywyd bellach. Hynny, a gwneud digon o arian i dalu am yr hanfodion. Brws dannedd, er enghraifft. A bwyd. Heb anghofio’i foddion dewisol: gwirod ac amffetaminau.

Aeth i’r toiled ac, ar ôl pisio, daeth wyneb yn wyneb â’i nodweddion ei hun. Yn y drych, edrychai yn llawer hŷn na’i bedwar deg un. Beiai Manon am hynny. A’r booze. Heb anghofio’r cyffuriau, wrth gwrs. Rhwng y nyth o wallt gwyllt ar ei ben a’r blewiach anniben ar ei ên, syllai ei lygaid arno o ogofau dwfn ei benglog. Diffyg maeth oedd wrth wraidd y suddo. Nodwedd gyffredin iawn yn y byd sydd ohoni, ddegawd ar ôl y bleidlais. Byd llawn anobaith ac anhrefn, a arweiniai at derfysg a thanau dyddiol yn y ddinas. Byd lle roedd Cymru fach wedi’i hynysu rhag gweddill Ewrop, a’i hangori at dwll tin Lloegr, fel tiwmor malaen tu hwnt i unrhyw achubiaeth.

Yn y gegin ddiffenest, ailddefnyddiodd fag te o’r diwrnod cynt i wneud paned. Un wan, heb laeth na siwgr. Roedd e’n arfer cymryd dwy lwyed o siwgr yn ei ddisgled. Cyn y bleidlais. Cyn yr arwahanu diangen, gwirfoddol. Cyn i’r proffwydo a’r rhybuddio ddod yn wir. Roedd dogni bwyd yn gyffredin bellach, a’r nwyddau ar werth mor ddrud nad oedd pobl fel fe yn gallu eu fforddio. Banciau bwyd oedd un o brif ddiwydiannau’r wlad nawr; wedi disodli’r banciau arian, a wrthgiliodd o’r ynys fel llygod ffyrnig o gwch yn boddi. Yn unol â’u rhybuddion.

Anelodd am y lolfa, gan godi llythyr oddi ar y llawr ger ddrws ffrynt y fflat; cyhyrau gwaelod ei gefn bron a rhwygo wrth wneud. Eisteddodd yn ei hoff gadair. Yr unig gadair. Cododd y remôt a thanio’r teledu ac, wrth iddo fynd ati i rolio mwgyn cynta’r diwrnod, chwydodd y newyddion drwg o’r sgrin, fel gwastraff gwenwynig. Gwyliodd ddelweddau brawychus o fyddinoedd yn ymgynnull ar ben draw’r byd.

America’n bygwth Tseina.

America’n bygwth Gogledd Corea.

America’n bygwth Iran.     

A Rwsia’n gwylio’r cyfan o’r cysgodion, gyda gwên fach slei ar ei hwyneb.

Clywodd eiriau cyfarwydd. Geiriau oedd yn arfer codi ofn arno, ond oedd mor gyffredin heddiw, roeddent wedi colli eu hawch a’u hystyr. Roedd y bygythiad o ryfel niwclear yn real iawn, heb os. Ond, o ystyried yr holl drafferthion ar stepen ei ddrws, gallai anwybyddu’r hyn oedd yn digwydd yng ngogledd y Cefnfor Tawel yn ddigon hawdd. Gyda’r tlodi a’r trais tragwyddol, yr hiliaeth a’r estrongasedd beunyddiol, roedd rhan ohono’n meddwl “bring it on” bob tro y clywai adroddiad arall am yr Armagedon anochel. 

Ddeng mlynedd ar ôl y bleidlais, roedd popeth wedi newid ym myd T. Lloyd Lewis, a siaradwyr Cymraeg y wlad yn gyffredinol. Lle bu balchder ac urddas gynt; rhaid oedd cuddio’u hunaniaeth heddiw. Diolch i rym y casineb a amlygodd ei hun o ganlyniad i’r bleidlais, cafodd y Cymry Cymraeg eu gwthio a’u herlid i’r ymylon dros y ddegawd ddiwethaf, i’r fath raddau fel nad oedd cymdeithas Gymreig yn bodoli mwyach. Ddim yn y ddinas, ta beth. Roedd pethau ychydig yn well yng nghefn gwlad, yn ôl y sôn, ond nid oedd modd cadarnhau hynny chwaith. Byddech yn clywed sïon am bobl yn cwrdd yn danddaearol i gynnal y fflam ac i ymgynnull er mwyn gweddïo, canu neu jyst i sgwrsio, ond yr unig arwydd ar yr arwyneb o fodolaeth pobl o’r fath, oedd y graffiti Cymreig diffuant a fyddai’n ymddangos dros nos o bryd i’w gilydd. Wrth gwrs, byddai’r geiriau’n cael eu disodli’n ddigon cyflym gan negeseuon gwrth-Gymreig, ond o leiaf roedd yna rhyw obaith yn dal i fodoli. Ar ben hynny, roedd chwedlau dinesig am gangiau yn llosgi tatŵs iaith y nefoedd oddi ar groen brodorion fyddai’n ddigon anlwcus i gael eu dal. A gobeithiai T yn arw na fyddai neb yn gweld y geiriau i’w hoff gân, oedd wedi’u hysgythru mewn inc dros ei ysgwydd chwith, ac estyn am y lamp losgi.

Does dim angen merch
I dorri dy galon di,
Pan ti’n byw yng Nghymru.

Roedd y geiriau’n fwy gwir heddiw na phan gafon nhw eu ’sgrifennu, doedd dim amheuaeth am hynny. Gafaelodd yn y remôt a rhoddodd bwt i’r ynfytyn-flwch yng nghanol adroddiad am ymddangosiad Comed Read yn yr awyr. Gallai gofio gwylio ambell ffenomen ffurfafennol yn ystod ei fywyd. Comed Hale-Bopp yn nawdeg saith, yng nghwmni ei ddosbarth ysgol. Eclips solar nawdeg naw, pan aeth y wlad yn wallgof am gwpwl o ddyddiau, gan wario miliynau o bunnoedd ar sbectolau arbennig i wylio’r digwyddiad. Taniodd ei sigarét. Daeth cnoc gadarn ar y drws gan wneud iddo dagu ar fwg, ond stopiodd ei hun rhag pesychu, gan ei fod yn gwybod yn iawn pwy oedd yna.

“Mr Lewis, I know you’re in there!” Ei landlord. Mr Smith. “Mr Lewis, this is getting out of hand.”

Roedd arno ddeufis o rent iddo. Arian nad oedd ganddo.

Smociodd.

“I can smell you, Mr Lewis.” 

Gwnaeth hynny iddo wenu. Diolch i fesurau llymder y llywodraeth a’r toriadau i gyllid gwladol, roedd y wlad i gyd yn drewi, yn enwedig ardaloedd dinesig fel hon. Roedd y strydoedd yn fôr o sbwriel a’r tanau oedd yn llosgi’n ddyddiol yn llygru’r aer a’r amgylchedd.

Tawelodd y cnocio a’r gweiddi. Rholiodd fwgyn arall a chod’r llythyr oddi ar y bwrdd coffi. Roedd ei fysedd melyn fel tsipolatas ymbelydrol ar gefnlen yr amlen wen. Nododd stamp y cwmni oedd yn cyhoeddi ei nofelau yng nghornel uchaf yr amlen. Rhoddodd hynny hwb i’w obeithion. Anadlodd yn ddwfn cyn ei hagor, gan weddïo i Dduw nad oedd yn credu ynddo am newyddion da.

Ond siom oedd yn aros amdano.

Siom, a sioc.

Cafodd ei siomi gan y cyfanswm oedd yn ddyledus iddo, a chafodd sioc o weld cyn lleied o lyfrau a werthwyd yn ystod y chwe mis ers cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf. Datganodd y TALEB BREINDAL fod ei nofel, A Better World, wedi gwerthu hanner cant a dau o gopïau yn unig ac, o ganlyniad, bod y cwmni cyhoeddi, Gwalia Publishing, wedi talu £62.32 i’w gyfrif banc.

Gwell na dim. Jyst. Ond ymhell o fod yn ddigon i dalu’r rhent.

Roedd ei bedair nofel flaenorol wedi’u rhestru ar y taleb hefyd, ond doedden nhw heb werthu’r un copi rhyngddyn nhw. Gwyddai T bod pobl yn gorfod blaenoriaethu, ond roedd e dal yn siomedig, yn enwedig o gofio’r ymdrech aeth mewn i’w hysgrifennu. Ond y gwir oedd, pan nad oes bwyd ar y bwrdd, does neb yn meddwl rhyw lawer am lenyddiaeth.

Cofiodd nôl i’r cyffro o gyhoeddi ei nofel gyntaf. Roedd Manon wrth ei ochr trwy’r cyfan. Dyddiau da, llawn creadigrwydd a chariad. Cyn y bleidlais. Cyn y bygythiadau. Cyn i’r wlad fewnffrwydro. Cyn i Manon ei adael am ddyn arall. Roedd hi mor falch ohono, yn ei wylio o res flaen y lansiad; ei gwên yn llydan a’i llygaid yn llawn edmygedd. Ond, pylodd y parch yn ddigon cyflym, pan fethodd y nofel ddod o hyd i gynulleidfa. Ac er i’r cwmni cyhoeddi ei gefnogi trwy’r tymestl, ni arhosodd Manon mor dryw. Ond ni allai ei beio am hynny.

Roedd llythyr mewn llaw-ysgrifen wedi’i atodi i’r taleb, a’r geiriau yn y Gymraeg.

T, galw draw pan gei di gyfle.
Ma angen i ni ga’l chat fach.
Cofion, J

‘J’ am Joe.

Joe Hayes.

Sefydlwr y wasg. Pennaeth y cwmni cyhoeddi. Hen ddyn yn agosáu at ei wythdeg. Dyn gyda gweledigaeth. Dyn oedd wedi credu yn T a chyhoeddi ei lyfrau. Dyn oedd yn siŵr o ddifaru gwneud hynny bellach. 

‘J’ am Jesus fuckin Christ!

Chat fach. Gallai T ddychmygu ei chynnwys yn ddigon hawdd. Diwedd ei yrfa. Ond, gyda diwedd y byd ar y gorwel, oedd unrhyw ots mewn gwirionedd?

Tagodd ei rôl yn y blwch llwch llawn.

Chwythodd y mwg tua’r nenfwd.

Pesychodd fel claf bronciol.

Chwiliodd yn ofer am bowdwr, felly gwisgodd got law ysgafn, gafaelodd yn ei feic rhydlyd a gadael y fflat, gan gadw llygad ar agor am ei landlord. Clywodd weiddi trwy ddrws y fflat drws nesaf. Dyn a dynes yn mynd amdani – straen bywyd yn cyrraedd y pwynt berw. Cafodd ei atgoffa o wythnosau olaf Manon yn y fflat. Dyddiau o dawelwch, ac yna ffrwydriad ffyrnig a dagrau i ddilyn. Gwelai ei heisiau o hyd.

Aeth lawr grisiau’r hen dŷ Fictoraidd oedd wedi’i rannu’n bedwar fflat, ac allan trwy’r drws ffrynt. Oedodd ar y trothwy, gan ei bod yn pigo bwrw. Ystyriodd droi’n ôl, wedi’r cyfan, doedd dim rhaid iddo fynd i weld Joe heddiw. Roedd y nodyn yn ddigon amwys. Gallai ddychwelyd i’r fflat a... a... beth? Gwylio’r teledu? Mynd nôl i’r gwely? Roedd y dewis yn dorcalonnus. Ar y gair, torrodd yr haul trwy’r cymylau, gan oglais ei groen gwelw. Gwenodd ar weld bwa enfys berffaith yn ymddangos dros doeon y tai teras gyferbyn. Nid oedd wedi gweld unrhyw beth mor brydferth ers blynyddoedd. Yn wir, ni allai gofio’r tro diwethaf iddo weld enfys o unrhyw fath. Codwyd ei galon ac fe’i sbardunwyd ymlaen.

Roedd T yn byw yng nghanol y ddinas.

Ger yr afon.

Ger y stadiwm.

Lle braf, mewn oes a fu. Ond nawr, roedd y lle’n debycach i ddystopia yn un o’i nofelau, na chanol prifddinas. Neu ranbarth, fel ag yr oedd hi bellach. Roedd seiclo i unman heddiw fel chwarae gem o Mario Kart. Roedd rhaid osgoi pob math o rwystrau – rhai dynol, naturiol ac artiffisial. Yn wir, roedd hi bron yn amhosib mynd i unrhywle heb gael fflat. Roedd y sbwriel yn drwch ar lawr, a neb yn dod i’w gasglu. Gwydr. Caniau. Papur. Plastigau o bob lliw a llun. Popeth yn cael ei wthio yma ac acw gan y gwynt, nes pentyrru mewn corneli a chynrychioli cywilydd y ddynol ryw. Cofiai T ymgyrchoedd gwleidyddol a chymdeithasol i fod yn ‘gymunedau di-blastig’, a’r holl straeon am ynysoedd o blastig yn arnofio yn y cefnforoedd, gan ladd anifeiliaid y môr yn gwbl ddidostur.

Claddodd y bleidlais unrhyw obaith o adfer y sefyllfa.

Yn wir, claddodd y bleidlais unrhyw obaith.

Croesodd y bont dros yr afon, gan droi ei ben a gweld yr hylif tywyll yn llifo’n araf tua’r morglawdd. Gallai gofio nofio ynddi yn ifanc, rhyw bedair milltir i’r gogledd o’r fan hyn, ger cored Radyr – y llif yn llawn pysgod, a’r crehyrod glas yn pysgota yn y brwyn. Ond ni ai yr adar yn agos at y dŵr heddiw. Roedd y gwylanod wedi ymgartrefu’n barhaol mewn ardaloedd adeiledig, gan ddifa pob colomen a safai yn eu ffordd. Roedd yn well gan T beidio meddwl beth ddigwyddodd i’r hwyaid, yr elyrch a’r bilidowcars.

Roedd pobl ym mhobman fan hyn, a dim car ar gyfyl y ffordd, diolch i’r diffyg tanwydd, un arall o sgil-effeithiau’r bleidlais. Roedd y prinder wedi para am bedair blynedd hyd yn hyn, a doedd dim golwg o’r diwedd. Yr unig geir oedd i’w gweld yn gyson heddiw oedd rhai’r heddlu, a rhai’r lluoedd arfog o bryd i’w gilydd pan fyddai galw arnynt i ddod i ddelio â sefyllfaoedd difrifol o drais dinesig. Roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn atgof pell erbyn hyn, diolch i’r diffyg tanwydd a’r isadeiledd adfeiliog. Byddai trenau’n cludo nwyddau prin i’r ddinas, ond doedd neb yn teithio arnynt bellach. Beic. Ceffyl. Cerdded. Dyna oedd dewis y werin heddiw. Cofiai T yr holl sôn am gerbydau trydan a dyfodol di-lygredd. Breuddwyd gwag arall a gladdwyd gan y bleidlais. A gyda’r byd ar drothwy rhyfel niwclear, doedd dim dyfodol i’r mwyafrif ta beth. Ond ni effeithiodd y diffyg tanwydd ar T yn bersonol, gan nad oedd erioed wedi berchen ar gar. Wrth agosáu at y castell, lle arferai praidd o anifeiliaid concrid bipo dros frig y mur, oedd wedi ei ddymchwel erbyn hyn, gwelodd T haid o gŵn gwyllt yn ei wylio o gysgod y coed.

Saith pâr o lygaid yn syllu i’w gyfeiriad.

Saith tafod yn llyfu gweflau.

Saith bola’n griddfan.

Pedlodd o na, mor gyflym ag y gallai.

Roedd waliau’r castell ei hun wedi’u gorchuddio â graffiti. Yr awdurdodau yn hollol ddiymadferth i’w atal, oherwydd y diffyg cyllid ac adnoddau. Daliodd un darn penodol ei sylw.

ONE LAND.
ONE LANGUAGE.

Trodd y gornel a seiclo i gyfeiriad y gogledd, heibio i’r ganolfan ddinesig ar y dde, oedd wedi hen golli ei sglein a’i hurddas, yn bennaf oherwydd y graffiti oedd yn gorchuddio’r muriau, ond hefyd achos y ddinas o bebyll amryliw oedd wedi ymddangos ar y lawnt o flaen yr adeiladau urddasol. Roedd yr arogl a godai o’r pebyll yn ddigon i lorio dyn, felly anadlodd T yn ddwfn a chadw i fynd.

Roedd Joe yn byw rhyw bum milltir i ffwrdd: ar lethrau’r mynydd oedd yn codi fel cragen crwban tu hwnt i’r draffordd, i’r gogledd o ganol y ddinas. Ond cyn cyrraedd pen ei daith, seiclodd T yn gyntaf trwy’r ardal lle roedd myfyrwyr y ddinas yn arfer byw, cyn i’r bleidlais newid popeth. Roedd yr holl fflatiau yn wag nawr. Wel, yn wag o fyfyrwyr, er bod pob ystafell yn llawn. Yn llawn dop, ’fyd. Byddai preswylwyr y pebyll yn dyheu am gael symud i un o’r blociau hyn. Beverly Hills cardotiaid y ddinas.

Stryffaglodd T i gyfeiriad y maestrefi. Dyma lle y tyfodd fyny. Er bod yr ardal wedi newid yn sylweddol ers iddo adael gartref. Wedi mynd oedd y lawntiau gwyrdd a’r ceir ar y dreifs, ac yn eu lle, ffensys tal a weiren bigog; camerâu teledu cylch cyfyng ac arwyddion yn rhybuddio darpar ladron o natur drydanol y ffens. Gwelodd farrau dros ffenestri a chŵn cyhyrog yn gwarchod bron pob eiddo. Diolchodd fod ei rieni wedi marw cyn i’r byd bydru fel hyn.

Pasiodd gartref hen ffrind iddo a chofiodd chwarae pêl-droed a cwato yn y cyffinie. Cofiodd ymdeimlad o gymuned. Cofiodd fod yn hapus.

“No cycling!” Clywodd lais yn gweiddi arno a dyn â gwallt gwyn yn brasgamu i’w gyfeiriad, gyda rhaw yn ei law. “Can’t you read?”

Sbardunodd T i ffwrdd, ei galon yn carlamu a’i lygaid yn chwilio am arwydd dim seiclo. Ni allai weld un yn unman. Gwallgofrwydd pur. Sgil-effaith cyffredin arall.

Croesodd bont dros y draffordd. Mynwent i oes a fu. Roedd cerbydau dirif i’w gweld, yn ymestyn o’r fan hyn at y gorwel, wedi’u gadael yn y fan a’r lle pan ddaeth y tanwydd i ben. Gwelodd gorff yn symud o un car i’r llall, ac yna’r wynebau yn syllu arno o’r cerbydau. Roedd y digartref wedi ymgartrefu fan hyn hefyd. Un ai hynny, neu roedd apocalyps sombi ar fin cychwyn.

Gallai T weld y mwg yn codi o simne ei gyrchfan yn y coed, rhyw chwarter milltir i fyny’r allt. Gwthiodd ei feic i gefn gwlad. Roedd natur yn brysur ailhawlio’r ardal, a’r coed, gwrychoedd a glaswellt yn tyfu’n wyllt.

Roedd yn chwys drabwn erbyn cyrraedd mynedfa’r ystad ac oedodd i ddal ei wynt cyn gwasgu’r botwm. Yna, clywodd y dwndwr. Rymblan estron yn agosáu. Gafaelodd yn ei feic a brysio i guddio tu ôl i glawdd cyfagos lle gwyliodd trwy’r prysgwydd yn geg-agored wrth weld lorri arfogedig yn gyrru i’w gyfeiriad, gydag un dyn yn llywio’r cerbyd ac un arall yn gafael mewn M16; trwyn y reiffl yn pwyntio trwy’r ffenest agored, yn barod i danio, yn barod i ladd.

Read more from the August 2019 issue
Like what you read? Help WWB bring you the best new writing from around the world.