Skip to content
Join us for a screening of The Miracle of the Little Prince at Film Forum, followed by a Q&A with filmmaker Marjoleine Boonstra. Wednesday, August 28 at 8:10PM | 209 W Houston St, New York, NY. Tickets on sale now.
from the August 2019 issue

Llythyrau Dolores Morgan o’r Dwyrain Pell

Dinas Kyoto, 1868

LlPT 13762: A30, A31, A32, A33, A34, A35

Llythyrau yn llaw Dolores Morgan, cenhades ar ran Undeb Bedyddwyr Cymru, at ei chyfeilles Leila Farr Bevan. Corff newydd oedd yr Undeb, a phenderfynodd anfon cenhadon i Japan yn fuan wedi i’r wlad newid ei pholisi hirhoedlog ac agor o’r porthladdoedd am y tro cyntaf i longau tramor. Mae’n debyg mai dyma eu hymgais genhadol gyntaf, a’u bod wedi dewis cenhadu i gyfeiriad tra gwahanol i’r Hen Gorff a oedd â’i olygon yn bennaf tuag Affrica. Nid yw’r atebion i’r llythyrau hyn (os cafwyd rhai) ar glawr hyd y gwyddys.

 

A30

20 Ebrill, 1868

I’m cyfeilles fynwesol, Leila Farr Bevan.

Cyfarchion a bendithion ichwi o bellafoedd eithaf y byd, pa rai yr ydwyf ar hyn o bryd yn preswylio ynddynt.Yr wyf yma yn Kyoto, er’s rhai dyddiau. Fe’m croesawyd oddiar y llong, a minau’n dra lluddedig wedi mordaith o  drimis, gan rai cyfeillion Cristnogawl a fu yma er’s tro yn braenaru y tir, ac a lwyddasent rywsut i sicrhau imi le, nas cawsent hwythau ar eu cyrhaeddiad yn y wlad, yn trigoyn mhalas yr ymherodr ei hun.  Nis gwn hyd heddiw pa fodd y sicrhawyd hyny, na pha beth a wneuthum i haeddu’r fath fraint, onid yw gwaith diflino y lleill wedi dechreu talu, a bod yr Yspryd  Glan eisoes ar waith yn mhlith preswylwyr Japan.Y mae’n debig hefyd fod a wnelo hyny a’r newid barn diweddar parthed  materion tramor,  a deissyfiad yr ymherodr ar i drigolion y wlad ymagweddu yn fwy croesawgar tuag at estroniaid. Wedi cyfnod o ddadluddedu yn lletty’r cyfeillion, felly, fe’m croesawyd i balas yr ymherodr ei hun, ac i’m hystafell ysplenydd ym mha le y ceir parwydydd pren, ysgriniau papur ac arnynt addurniadau tra chywrain, a byrddau a gwely issel. Nid oes yma gadeiriau, a bydd yn  rhaid imi gofio erchi rhai, canys nid wyf eto wedi dod i ymgynefino ag arfer y Japaniaid o eistedd ar y llawr, hyd yn nod yn mhlith y rhai uchaf eu tras. Da genhyf serch hyny ydyw’r arfer o ddiarchenu bob tro y byddir yn cael mynediad i fangre dan do.

Clywsoch, y mae yn debig, laweroedd am y wlad hynod hon yn ddiweddar, oblegid bod y sawl sydd yn preswylio ynddi wedi tori allan mewn gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth. Yr oeddwn inau wedi clywed achlust o’r cythrwfl hwn yn ystod y fordaith, ac felly gyda chryn fraw ac ofnadwyaeth y deuthum i lan rai dyddiau yn ol. Mawr serch hyny fu’m diolch i’r Hollalluog am weled yn dda fy anfon yma ar amser mor dynghedfenol, ac erchais yn daer arno fy ysbrydoli a’m galluogi i wneud y mwyaf o’r amgylchiad gwleidyddol bregus y mae y Shogun ynddo ar hyn o bryd, er gwaredu’r wlad unwaith ac am byth o’i chredoau anwar, pa rai a adwaenir, yn ol eu hamrywiaeth, Shinto a Bwddhïaeth.

Mi a  ddeellais yn bur fuan wedi cyraedd fod rhai o bendefigion yr ymherodraeth, pa rai a elwir Satsuma, Choisu, a Tosa, yn ystod y misoedd diweddaf wedi dwyn gwrthryfel yn erbyn y  Shogun, sef prif gadlywydd, rhaglaw, a phrif weinidog y wlad, oblegid eu dymuniad i gael gweld gwir rym yn dychwelyd i ddwylaw y Mikado, yr ymherodr. Hyd yn ddiweddar, tybiais fod yr awdurdod benadurol yn Japan wedi ei rhanu rhwng dau berson gwahaniaethol – un yn ysprydol, a’r llall yn wladwriaethol. Ond nid yw y gwahaniaeth a wneir rhwng y gallu ysprydol a’r gallu gwladwriaethol ond ffiloreg noeth. Yr unig  wahaniaeth yw  mai y Mikado yw prif ffynhonell grym, ond y Shogun sydd wedi ymarfer y grym hwnw er’s degawdau. Serch hyny, geill y Mikado, os y dewisa, amddifadu’r  Shogun o’i  swydd. Fel hyn, mewn effaith, yr oedd y Shogun yn llywodraethu, ond y Mikado, neu’r ymherodr, oedd y gwir benadur cyfansoddiadol.

Ymddengys yn awr y bydd yr ymherodr, pa un yr wyf inau ar ei drugaredd yma yn ninas hynafol Kyoto, maes o law yn adfer y grym y dihysbyddwyd ef ohono, i bob pwrpas, rai canrifoedd yn ol.Y mae nifer o balasau’r Shogun eisoes wedi eu llosgi yn y misoedd diweddaf, a dywedir wrthyf mai mater o amser yn unig ydyw nes y bydd yn orfodol iddo ynteu blygu glin drachefn i’r ymherodr, a rhoi i fyny ei reolaeth dros y wlad. Ar hyn o bryd y mae gwir nerth y wlad – neu gasgliad o ynysoedd yn wir, dros chwe mil o honnynt – yn eistedd er’s rhai degawdau, mewn gwirionedd, yn Edo, dinas enfawr i’r dwyrein oddi yma a wna hyd yn nod i  Lundain ymddangos megis rhyw gaer ddistadl ar gyrion ymherodraeth yn hytrach na capita mundi. Bychan fu dylanwad a grym yr ymherodr dros y degawdau diweddaf, ac nis rhoddwyd iddo’r un parch ac edmygedd ag a gaiff ein hanwyl frenhines ninau.

Ond y mae hyny ar newid. Bu amser – a hyny heb fod yn mhell iawn yn ol ychwaith – pan yr oedd yn berygl dywedyd i ddyn o genedyl arall roddi ei draed ar dir Japan, nag hyd yn nod i’w long ddyfod i’w phorthladdoedd.Y mae yn rhaid fod y Mikado yn ddiweddar wedi newid ei  farn ar y mater hwn, ac wedi dyfod i deimlo yn fwy cyfeillgar tuag at estroniaid hyd yn nod fel y daeth i gashau y Shogun. Rwyf inau yn preswylio gyda’r ymherodr yn Kyoto, a’m amcan a’m bwriad inau, felly, a Christ yn ewyllus ac yn llyw, ydyw cymmeryd mantais o’m safle breintiedig er sicrhau mai’r wir grefydd, Cristionogaeth, a fydd flaenaf pan gymmer yr ymherodr ei enedigaeth fraint yn ei hol.

Maddeuwch imi, fy nghyfeilles, am hynyna o ragdraeth cyd-destunol, yr hyn oedd yn rhaid arnaf er mwyn ichwi allu dyallt fy sefyllfa. Yn wir, cefais gryn fwynhad o osod y cyfan ar glawr fel yna, oblegid ei fod wedi eglurhau y cyfan yn fy meddwl inau yn o gysdal. Digon hyny hefyd i gyfleu ichwi faintioli y dasg enbyd ysydd o’m blaen, gan fod y wlad yn llawn braw, arswyd, a barbareiddiwch ar bob tu. Y mae paganniaid gwaetgar yn llechu ymmhobman ac oni bai am ewyllus Crist ni fynasswn dario yma un eiliad yn hwy, ond yn hytrach gael dyfod adref atoch chwi. Er cyfleu ichwi odrwydd trigolion  y  wlad a’r  modd y mae bywyd beunyddiol yma yn flinderus wahanol, bodlonaf ar un engreifft. Cyfeiriaw yr wyf at y te a yfir yn ddibendraw  gan  y Japaniaid. Os y meddylir am y Brythoniaid ein bod yn genedyl o de-yfwyr, dylid dod yma i Japan i weld ym mha fodd y maent hwythau yn rhoi lle  urddasol  a chanolog mewn gwaith a defod i’r ddiod hon, namyn yr yfir ganddynt hwythau ryw de gwyrdd, llysnafeddog, nad ydyw yn ddymunol o gwbl i’m tyb inau.

Yn ystod fy nyddiau cyntaf yn y palas,a minau o hyd yn dra lluddedig, cynigiwyd imi gan aelod  o osgordd yr ymherodr, Chihiro, fy nhywys o amgylch rhai o fangreoedd y ddinas ganddi. Er nad oeddwn yn ewyllysgar fy yspryd, ac mai’r cyfan y dymunwn ei  wneuthur ydoedd cloi fy hunan oddi mewn i furiau’r palasty, cydsyniais inau. Mynegais yn yr hyn o Japaneg ag y llwyddais i’w ddysgu cyn dyfod yma, yr hoffwn inau ymweld a theml, er mwyn dysgu ychwaneg am y crefyddau rhyfedd ac ofnadwy a ymarferir yma. Crybwyllais yr unig deml y gallwn ei chofio, wedi darllen amdani yn yr un llyfr  y bu’n ddichonadwy imi ei ganfod am y wlad ag sydd ger fy mron yr awron, nid amgen A Brief and Concise Introduction to  the Customs, Habits and Practices of the Japanese People, Being Also  a Useful and Moral Guide to their Temples and Places of Worship, gan Albert F. Thrapp. Cofiais imi ddarllen yn y llyfr hwnw am deml ysplenydd, wedi ei gwneud o aur coeth, ac a ddisgleiriai yn ei safle ar ynys ynghanol llyn ar gyrion y ddinas. Mynegais fy nymuniad felly am gael myned i weled y Ginkaku-ji.

Wedi cryn gerdded a chrwydro a dringo, daethom ymhen yrhawg i olwg teml ar ael bryn, a chanddi ardd ysplenydd o raian wedi’i gribinio  i  ymddangos megis  môr tonnog. Effaith hyn oedd tawelu meddwl ac yspryd yr ymwelydd. Pan edrychasom hwnt i’r môr graianog hwn, fodd bynnag, fe’m siomwyd o weld  y deml  ei  hun yn edrych mor llwydaidd â’r graian hwnw o ddeutu’m dwydroed. Rhwng llawer o Saesneg toredig, Japaneg toredicach fyth, ac ambell air o Gymraeg ynghyda chryn chwifio dwylaw, llwyddais i gael ar ddeall gan fy nghyfeilles mai am y Kinkaku-ji, yn hytrach na’r Ginkaku-ji, y dylaswn fod yn ymofyn, a newidiodd y braw a’r siom ar ei hwyneb yn sirioldeb a chwerthin. Er cymaint fy siomedigaeth, yr oedd yn rhaid hefyd i minau chwerthin, gan sylweddoli mai hwn ydoedd y tro cyntaf imi wenu’n iawn oddiar imi osod fy nhroed yn y wlad. Ni ddichon rhoi coel am eiliad ar ynfydrwydd a barbareiddiwch crefydd Shinto na’r rhai a ymlynant wrth y ddyscedicaeth a elwir ‘Zen’; ond nid hwyrach na phrofaswn inau yno rywfaint o’r tawelwch meddwl ac yspryd a ddaw o dreulio orig ger y môr graianog hwnw. Yr wyf hyd heddiw, serch hyny, yn ymaros i gael ymweld â’r deml Aur hono.

Leila, fy  enaid a’m  cydymaith, yr wyf wedi traethu yn llawer rhy anghryno, ac yma felly  y terfynaf. Y mae llawer mwy eto i’w gyfleu ichwi, ond rhaid iddo aros dro.Y cyfan sydd i’w wneud bellach yw mynegi fy hiraeth dwysaf amdanoch ac am Gymru fach, a hyderu y caf ryw ddydd ddychwelyd i’w choflaid drachefn. Dyna felly roi terfyn am y tro ar y meddyliau a ddaeth imi, yrhon ysydd,

Yr eiddoch, bob amser, Dolores.

 

 

A31

1 Mai, 1868

F’anwylaf Leila,

Amgauaf yma a ganlyn, sydd sylwedd anerchiad a gyfeiriwyd yn ddiweddar gan offeiriad Japanaidd o radd uchel at y llywodraeth:–

Y mae crefydd warthus yr Iesu, Meistr y nefoedd, yn drychineb ag  sydd yn peryglu yr ymherodraeth.Y mae penweiniaid i’w cael  a dueddant at yr athrawiaethau hyny, y rhai sydd i’w cael yn dra lliosog yn mhlith y boblogaeth. Yn chwanegol at hyn, y mae dynion o wledydd tramor yn ymegnïo i ledaenu yr athrawiaethau hyn.Yr ydym yn cael ein blino yn fawr o herwydd hyn, ac yn dymuno ar fod i wrthdystiadau parhaus gael eu cyhoeddi yn erbyn yr athrawiaethau. Yr ydym yn ostyngedig, y rhai, ynglŷn â Bwddhïaeth, sydd wedi gwneud Japan yn allu, yn barod i fyw ac i farw gyda’r ymherodraeth.

Dyma’r math o lygredigaeth, gyfeilles hoff, y mae y wlad y trigiannaf ynddi yn ymdrybaeddu ynddo  yn bresenol, ac yr wyf inau yn fwy parod nag erioed o’r blaen i’w waredu o’r tir. Y mae’n rhaid imi ymddiheuro am anfon gair atoch drachefn cyn fuaned. Ond fel y sylwasoch, heb os, ar ddiwedd fy nghenadwri ddiweddaf, y mae genhyf lawer eto i’w gyfleu ichwi. Rhowch wybod, da chi, pan fydd y llythr cyntaf hwnw wedi cyraedd pen ei daith, a’r ail hwn i’w ganlyn. Y mae y cyfeiriad yn amgaeedig ar  frig  y genadwri,  ac yr wyf yn ffyddiog y cyraedd yr unrhyw air oddi wrthych ben ei daith yn ddiogel.

Yssaf am gael sôn wrthych am fy  mhrofiadau yn y wlad ryfeddawl hon. Teimlaf yn wirioneddawl fy mod ar ben arall y byd.Yr wyf yn dal! – am y tro cyntaf yn fy mywyd.Y mae pawb yn ymgrymu i’w gilydd yma ac yn enwedig i minau, y fath berson ag y sydd yn gwbl ddieithr i breswylwyr y wlad. Ac er ei bod, da y gwn, yn adeg Gla’mai gartref – o, fel y mae treigl y tymhorau a defodau arferol fy oes yn fwy eglur, yn fwy poenus, ac yn fwy anghyraedd yma o’r herwydd, Lili! – mathau cwbl wahanol o ddefod ac o ddathliad a geir yma: yn benaf, y seremonïau te. Aeth Chihiro a mi i un o’r cyfryw ddefodau, ac yno ar fyng nghwrcwd, a’r cwppan yn fy neheulaw wrth i mi ei gylchdroi i’r aswy, y cefais inau fy mlas cyntaf o’r trwyth od ond rhyfedd o flasus hwn.

Euthum rai dyddiau yn ol i ymweld a’r Kiyomizu-dera, teml fawreddog ar ben bryn ar gyrrion y ddinas. Y mae yma aura, ac arogl pensyfrdanol ac unigryw, tra gwahanol i’r hyn yr wyf yn gynefin ag ef gartref yng Ngwlâd y Gan. Ymddengys i’m ffroenau i yn gymysgedd o ddail te, arogldarth, dwr, a’r pren y gwnaethpwyd anheddau’r Japaniaid ohonnynt, oll fel pe’n pydru’n araf. Yn wir, y mae y ddwy  elfen olaf hyn yn dra blaenllaw yn y Kiyomizu-dera. Y mae yn wneuthurwaith o gryn feintioli sydd fel pe’n clwydo ar ymyl y bryn, ac oddi tanno ceir fframwaith o ysgaffallt neu esgynlawr a gynnail y cyfan. Dywedwyd wrthyf na ddefnyddir yr un hoelen yn yr adeiladwaith cyfan. Cymerth y deml ei henw oddiwrth y rhaiadr a lifa’n wallgofus i’r ceunant islaw:– ystyr Kiyomizu ydyw eglurddwr, neu burddwr. Islaw’r brif neuadd y ceir y rhaiadr hwn, ple ymdywallt y dwr yn sianeli i lyn bychan, ac ym mha le y gellir dal y dwr a’i yfed. Y mae i minau, yn fedyddreg fel y gwyddoch, gryn apel a chysur yn hyn, y mae yn rheidrwydd arnaf addef, a bellach dechreu synio yr ydwyf pa faint yn union o wahaniaeth sydd rhwng crefyddau’r byd. Y mae paganwaith y Japaniaid fel pe bai yn  arddel neu yn efelychu rhai o ddefodau Crist ei hunan, a pha un a yw hyny’n beth i arswydo ato ai peidio, nis gwn. Hyn a wn: yr oeddwn dan gyfaredd y dwr ar ben y bryn hwnw.

I’m tyb i ac i bob golwg y mae Shinto, crefydd gynhennyd y wlad, a Bwddhïaeth, pa un ysydd yn grefydd estron i bob pwrpas, yn cydorwedd ac yn cydymdynu yn rhyfeddol o heddychlawn yma, yn fwy cynganeddawl bid sicr na’n Anghydffurfiaeth a’n Hanglicaniaeth ni, heb sôn am elyniaeth cydrhwng enwadau, neu ein drwgdybiaeth o Babyddion. Ond wedyn y mae y rhwygiadau hyn yn seiliedig ar ystyriaethau diwinyddol dwys nas gallant godi  ond  o ddyfnder yspryd a meddwl.

Dychwelodd Chihiro a minau i lawr y bryn ar hyd ffordd arall, gan ddisgyn trwy strydoedd distaw lle yr oedd bywyd fel pe bai yn digwydd mewn penodau neu episodau bychain, hunangynhwysiol, y tu cefn i ddrysau papur a oedd cyn deneued ag aden gwyfyn. Yn sydyn, cefais fraw, gan y tybiais inau am enyd fer, Leila, imi weld eich gwedd yn syllu arnaf o’r tu cefn i’r drysau hyn. Ond yr oedd eich portread wedi diflanu cyn gyflymed ag y daethai. O weld fy mraw, ac o glywed yr hyn y tybiais ei weld, dywedodd Chihiro wrthyf fod gweled gwyfyn, i’r Japaniaid, yn gyfystyr a gweled enaid eich câr, sydd ar farw neu ym mhurdan. Ai eich wynepryd chi a weleis i yno, fy Leila? Neu ai gwyfyn yn wir a  fu’n ysgwyd  ei adenydd dro, ac yn taflu drychiolaethau rhwng canwyll a drws papur?

O rai tai deuai’r  arogldarth yn gryfach na’i gilydd; dro arall, clywem ymsibrydiadau myfyriol distaw neu chwerthin plentyn. Yna daethom i lawr i ardal  arall  o’r enw Gion. Ni cheid yma y lampau stryd arferol, ond yn hytrach lanterni papur ar bob tu, yn galw fel canwyll gorph. Am ryw reswm yr oedd yn dawelach yma hefyd, heb glindarddach y certiau na  swˆn chwareu  plant  ychwaith. Eglurodd Chihiro wrthyf mai dyma ardal y machiya a’r ochaya – y tai te lle gweithiai’r geisha eu crefft gyfrin a hynafol. Yr oedd byd cwbl ddirgel imi heibio i bob drws papur, a’r unig argoel a  gawn inau o honynt ydoedd y rhesi esgidiau wedi eu gosod yn ddestlus wrth bob mynedfa. Cawsom un gipolwg, cyn gadael, ar geiko yn ymbrysuro ar draws y dramwyfa o  un apwyntment at y nesaf. Clywswn ddigon am y merched hyn dros yr wythnosau diweddaf, a disgwyliaswn ffieiddio atynt o’u gweld. Ond yr oedd rhyw beth cyfareddawl yn nghylch y ferch hon, a gerddai fel pe bai’n arnofio, ac a ymwisgai y fath olwg  o dangnefedd ar ei gwedd wen. Yna diflanodd heibio i ddrws papur, bron fel gwyfyn drachefn, ac nid oedd dim ar ol ohoni ond ei hesgidiau rhyfedd ac uchel ar hiniog y drws.

Y mae yn hwyr glas genhyf glywed oddiwrthych, f’anwylaf Leila. Anfonwch air ataf dan ofal  yr ymherodr  ei  hun, os mynwch:– y mae eich llythr yn saff o gyraedd pen ei daith. Byddai clywed genych, neu gan unrhyw un o’m ceraint a’m cydnabod hoff yng Nghymru fach, yn sicr o loni’m calon, yr hon y sydd fel erioed

Yr eiddoch yn hiraethlon, 

Dolores

 

 

A32

15 Mai, 1868

Gyfeilles hoff,

Er nad da genhyf eich mudandod parhaus, daliaf ati a’m gohebiaeth yn y gobaith y cyrraedd hyn o lythr atoch fel gwarant o’m diogelwch ac o’m bodlondeb, os nad o’m hapusrwydd, yma yn Japan. Yr wyf yn gobeithio ac yn gweddio eich bod oll hefyd yn ddiogel yn mhell dros y don, a’ch bod yn derbyn hyn o  genadwri  o’m llaw. Ni chlywais ychwaith oddiwrth Undeb y Bedyddwyr – pa rai a’m hanfonodd, megis colomen Noa, ar draws y dyfroedd. Byddwn yn dra diolchgar pe gallech chwithau  gyfleu iddynt fy niogelwch a’m gwaith parhaus yma.

Yr wyf yn trigiannu yn y Nijo-jo, math ar gastell ym mha le y mae’r palas ymherodrol, Palas Ninomaru. Fyth er i’r ymherodr gyhoeddi ei reolaeth dros y wlad yn mis Ionor eleni, bu cynlluniau ar droed i symud y palas a’r osgordd i Edo, ac ailfedyddio y cyfryw ddinas yn ‘Tokyo’. Ond bu’r cweryla yn mhlith y pendefigion yn ddigon i ohirio y symudiadau am y tro. Ceir ffrygydau a brwydrau ledled y wlad, ac anaml y bydd yr ymherodr ifanc yma yn y palas, yrhyn ysydd hefyd yn rhwystredig oherwydd na chaf achlysur i bwyso arno i roi ystyrriaeth i Grist Iesu ac i’w iawn grefydd. Ond y mae y palas hwn, yn ei ffordd ei hun, hefyd yn fyd ac yn fydyssawd, oblegid yr haenau mewnol a geir ynddo. Dim ond yr ymherodr ei hun, a’r rhai nesaf ato – ei ddarpar ymherodres, ynghyd a’i ordderchiadon neu ei gywelyesau – a gaiff fynediad i’r cyssegr mewnolaf. Y mae gweddill y llys wedi’i drefnu yn ol gradd a phwysigrwydd wedyn ogylch y cyfryw seintwar. Llym yw’r rheolaeth o’r haenau hyn, ac er mor ddiolchgar ydwyf am letygarwch yr ymherodr, yr  wyf eto yn bur agos at y cylch allanol. Y mae Chihiro, fodd bynag, yn rhinwedd ei bonedd a’i safle yn yr osgordd, yn presswylio nesaf at y cyssegr mewnolaf hwn. Hawdd yw deall y trylwyredd, oblegid y mae y Mikado, yr ymherodr, yn wastadol o dan fygythiad ymosodiad neu gais ar ei einioes. Ond nis gellid dychmygu gwell safle amddiffynfaol na hwn, oblegid adeiladwaith y castell ei hun. Cynlluniwyd y troedfyrddau pren o amgylch yr ystafelloedd gyda’r fath gyfrwystra a dyfeisgarwch nes y gwichiant fel adar pan fyddir yn cerdded arnynt: fe’u gelwir yn lloriau uguisubari, neu loriau eos. Digon trapherthus ydyw y profiad o’u tramwyo yn ystod y dydd: ond yn y nos, y mae rhyw gysur o glywed y llys yn mynd ac yn dod, ac o wybod y gellid clywed unrhyw ystelciwr yn dynesu, pes mentrai.

Yn wir, y mae sefyllfa y rhyfel cartrefol cynnddrwg hyd oni theimlaf gryn rwystredigaeth am nad  wyf yn  rhydd i rodio ac i grwydro yn ol yr hyn a ddymunwn. Y mae Chihiro a minau wedi dyfod bellach yn gryn gyfeillesau, ond ni chaf fentro i’r unman oddiallan i’r palas oni bwyf yn ei chwmniaeth. Serch  hyny, aiff bywyd rhagddo yn yr hen ddinas adfeiliedig, ac yr ydym yn bur gyfforddus er clywed yn feunyddiol newydd o’r hwnt ac yma am golledion a buddugoliaethau. Y mae un math o fuchedd yn benodol sydd yn boblogaidd yn mhlith y dosparth pendefigaidd er’s rhai canrifoedd, ac sydd eto yn mynd rhagddo, fel pe na bai rhyfel o gwbl. Am hyny, ymollyngais inau i’r bywyd hwn – efallai yn wir y byddai fy nghyfoedion gartref, a chwithau yn eu plith, Leila, yn dueddol o ddywedyd ‘yn ormodawl felly’. Ond nid ydych chwithau yn dystion fel yr wyf finau i gyfeiliant cyson y dinistr pell-agos hwnw.

Yr wyf wedi llwyr ymserchu yn y dull hwn o fyw: yr hyn a elwir yn gyson ukiyoneu 浮世, ac sydd o’i gyfieithu yn cyfleu rhywbeth tebig i ‘Fyd Arnofiawl’. Y mae buchedd yr ukiyoneu’r Byd Arnofiawl yn un llesmeiriol ac ehud. Dyry’r pwys bob amser ac uwchlaw popeth arall ar ymblesera ym mhethau goreu’r byd hwn, ac ym mhethau’r cnawd. A wyddech chi, er engreifft, y neilltuir tymor penodedig yma yn syml er mwyn crwydro rhwng coed ceirios a gwerthfawrogi eu blaguriad? Tymor arall wedyn i ymserchu yn mhrydferthwch eu marw. Chwi wyddoch y ceir yma yn achlysurol ddaiar-gryniadau sydd yn chwanog, o bryd i’w gilydd, i ysgwyd seiliau byw y boblogaeth gyfan, yn y parthau hyn. Rhyw dybied yr wyf inau mai o ymwybyddiaeth o’r modd y gallai holl fyd y trigolion ddod i lawr yn dipiau man o’u hamgylch unrhyw eiliad y deillia’r modd ymblesergar a chorfforol hwn o fyw.

Yn y byd hwn y mae ymblesera yn deyrn, ac i ganlyn y teyrn hwnw yr wyf inau wedi bod yn ymlwybro  o’r theatr kabukii’r ymrysonfa sumo. Cefais brofi, hyd yn nod, un  o ddawnsfeydd y geiko yn Gion, ac fe’m llesmeiriwyd. Un arall o’r ffyrdd y mae’r Byd Arnofiawl hwn yn ymbresenoli yn fy mywyd beunyddiol yw’r onnayu. Yn y baddon hwn y trinnir merched megis man-freninesau ac yr ymgreinir ac yr ymgrymir iddynt  gan  ddynion, yr hyn na ddigwyddai fyth gartref yng Nghymru fechan. Yno y mae y cnawd a’i noethni yn beth cwbl naturiol, yn gynhesrwydd i’w ranu cydrhyngom, wrth gydfaddoni a chydanwesu crwyn ein gilydd. Yno yn yr onnayu, Leila fy mynwes, y profais ias a dirgryniad, nid cwbl anhebig i’r daiar-gryniadau hyny, o’r math nas teimlais er ein dyddiau ieuainc ni, pan — ond yr wyf, er fy nghywilidd, yn mentro. A welwch chi’r modd y mae’r wlad hon wedi gafael ynof a’m gwneud yn eofn? Bron nad wyf bellach yn gobeithio y bydd tynged y llythr hwn yr unpeth â’i gyfoedion, ac na chyraedd fyth mo ben ei daith – eich dwylaw chwi a’ch trem. Ac eto – eich dwylaw, yn gynnes, eich trem yn — A gofiwch, Leila anwyl?

Gwn na all fy ngeiriau gwantan, ffaeledig ag yr ydwyf, fyth gyfleu ichwi ronyn o’r lliw, a’r cyffro a’r deffroad i gorff ac enaid, a rydd y dull arbennig hwn o fyw. I mi y mae rhyw ogoniant hynafol yn perthyn i Kyoto, gogoniant adfeiliedig, maluriedig nas gellir ei gael yn Edo (neu Tokyo), nac yn unman ond mewn dinas a fu un waith yn ganol bydyssawd ond sydd er’s tro byd wedi ymbellhau tua’i gyrion. Yr wyf dan gyfaredd y ddinas hon, a rhy fuan, ofnaf, fydd fy ymadawiad inau bellach pan ddaw.

Rhaid imi dewi, a ffarwelio. Yr eiddoch yn hiraethus, Dolores.

 

 

A33

4 Mehefin, 1868 F’anwylaf Leila,

Nid wyf i eto yn barod nac yn ewyllysgar i roi i fynny y gobaith y cyraedd un o’r llythyron hyn eich dwylaw eto, nac ychwaith i roi y goreu i gredu bod ein cyfeillgarwch ni eto yn alluog i ehedeg uwch tir a môr a throsgynnu cefnforoedd, fel y gwna o bryd i’w gilydd yn fy mreuddwydion. Am hyny yr ysgrifenaf drachefn atoch:–  ac eto tybiaf y gwnaf hyny yn gymaint  i mi fy hun ag i neb arall bellach, er cofnodi y profiadau hyn sydd yn dod i’m rhan, rhag i minau, wrth daro cip yn ol ar y talm o’m bywyd a dreuliais yma, beidio a chredu yr hyn a welais, a glywais, ac a deimlais.

Daeth cyfle o’r diwedd i grwydro yn mhellach oherwydd bod heddwch cymharol ar dro, a’r Ymherodr wedi enill y dydd fwy na heb. Y si yw fod yr holl osgordd ymherodrol yn ymbaratoi i symud i Edo. Mynegais i Chihiro fy neisyfiad, cyn ymado ohonom am Tokyo, gael myned i ddinas Nara, un o ddinasoedd sancteiddiolaf y Japaniaid, ac felly trefnwyd i barti ohonom ymadael yno ar daith a gymerth y rhan helaethaf o’r diwrnod. Taith ymchwilgar ydoedd hon, wrth gwrs, er canfod rhagor am gredoau a chysegrfannau Bwddhïaeth a Shinto, gael i minau addysgu y trigolion yn well am yr Iawn Dduw. Credaswn imi lwyr syrffedu ar demlau, ond yr oedd y temlau hyn yn arallfydol ac enrhyfeddol, i’r fath raddau nes na bydd yr un deml arall yn cymharu â hwynt i’m meddwl fyth eto. Yr hyn a’m trawai yn Nara wledig ydoedd ehangder ei gofod, a dernynnau o demlau a welid megis o bellter yn peri ias. Wrth eu pasio, ni allwn lai na throelli bys yn ddidaro dros res o olwynion gweddi. Cywilyddiais yn syth.

Yno yn y To-dai-ji, teml anferth a hynafol, adeilad pren mwyaf y byd, y cynhwyssir y cerflun pres mwyaf erioed o’r Bwda. Y mae y lle yn ddigon i yrru pendro ar y sawl a safo o fewn ei gysegrfanau. A Leila anwyl, y mae genhyf ichwi i’w hadrodd stori gwbl ryfeddol nas gallaf hyd yr awr hon ei chredu. Fe glywsoch, mae’n debig, am darddiad y Brython, y modd y darfu ini hanu o grombil Ewrob, neu o ddyfnderoedd caddugol Asia Fawr a mynyddoedd Siberia. Bydd genych gryn ddiddordeb felly yn y dyb yn y parthau hyn fod gwir wreiddiau a dechreuadau y Celt nerthol yn gorwedd ac yn tarddu yn mhellach yn ol hyd yn nod na hyny.

Onid un daith fawr tua’r  gorllewin  ydyw ein hanes ni fel Brythoniaid ac fel Celtiaid? Wedi tramwyo ehangder Rwsia a dyfnderoedd caddugol Asia Fawr, gwareiddio Ewrob dywyll a glanio wedyn ar lanau eithaf ymylon y byd fel yr adwaenem ef. Yna wedi gormesu arnom a cholli ein priod diriogaethau a’n hiaith, ymlaen, ymlaen eto dros gefnfor enfawr tua Chanaan dir! I ymsefydlu ohonom drachefn yng nghyrau Brasil a glanau’r Amerig, lle bu Madog o’n blaenau yn arloesi. A minau rywsut o ddychwelyd tua’r dwyrein wedi tynu’n groes, fel y gwneuthum mor aml yn fy neissyfiadau i gael tori’n rhydd o hualau hyn o gorff tlawd, gwantan, benywaidd.

Ond tybiaf yma imi ddod ar draws hanesyn – p’un ai hanesyn ynteu chwedl ydyw, nis gwn – i egluro tarddiad cenedyl y Cymry, a hyny yn mhellach yn ol hyd yn nod na Rwsia bell. Yr oedd mynach byrr a hynaws yr olwg mewn sachliain lwyd a llom yn ein tywys o amgylch y deml. Pan y dwedais wrtho fy mod yn hanu o Gymru, gwenodd yn llawen, ymgrymodd, ac yna chwarddodd i’m hwyneb. Yr oedd wrth ei fodd – roedd Cymru’n enwog yn Japan unwaith. Yn wir, yn marn y gwr hwn, yr oedd gan Gymru a Japan gysylltiad anatod a’i gilydd, ac yr oedd wedi bod yn ymaros yn amyneddgar rai degawdau er cwrdd ag un o’n llwyth. Meddai’r gwr, yr oedd un o ddisgyblion y Bwda wedi gofyn i’w feistr tra eisteddent yn myfyrio yno yn yr union neuadd lle safem ninau: beth allaf i ei wneud er mwyn cyraedd Nirfana? Roedd twll crwn yn un o golofnau pren y deml, nid mwy na phledren mochyn. Er mwyn gallu cyraedd Nirfana, dywedodd ei athraw wrtho, roedd yn rheidrwydd myfyrio yn faith a dwys, yn ddigonol felly i basio trwy’r twll hwn. Ond yr oedd yr un disgybl hwn yn methu’n lan a myfyrio yn ddigonol. Ystyriodd y Bwda yn ddwys, ac yna meddai fel hyn wrth y disgybl: pe gallet fyfyrio yn ddigon hir a dwys, yn ddi-dor a chyda’r fath ganolbwyntio nes gallu ohonot greu a dychmygu cenedyl gyfan o’th ben a’th bastwn dy hun, yn gwbl ffurfiedig a chyflawn, a chanddi bob dawn a chyneddf a berthyn i genedyl, yna gallet basio trwy y twll i Nirfana, cans byddet wedi cyraedd dyfnder ac ehangder eithaf dy fyfyrdodau.

Ni  chredwch fyth  mo’r   hanes, Leila, ond wrth air y mynach hwn a adroddai’r stori wrthyf, aeth y disgybl ati’n ddyfal i fyfyrio am chwe mis a chwe niwrnod. Eisteddodd yn Neuadd y Breuddwydion a’i gefn yn syth a’i lygaid ynghau, ac ni symudodd ewin. Tyfodd ei wallt a’i farf yn llaes, ac aeth ei ewinedd i’w gilydd. Cludwyd bwyd iddo bob dydd, ond pan ddychwelid i gasglu’r llestri oriau’n ddiweddarach, yr oedd y bowlen a’r ffyn heb eu cyffwrdd. Erbyn iddo ymgodi o’i feddyliau ar ddiwedd y cyfnod hwn, yr oedd ganddo wedi’i ffurfio’n gryno yn ei feddwl genedyl fechan, fach, a fodolai ar gyrion eithaf ynysoedd Ewrob, ar ymylon creigiog y cyfandir, a’i godre’n ymestyn tua’r cefnfor, cefnfor tra gwahanol i’r cefnfor yr oedd y disgybl ei hun yn gyfarwydd ag ef. Yr oedd hi felly yn agored i’r elfenau, ond yr oedd ganddi fynyddoedd hefyd, mynyddoedd bychain o’u cymharu â chewri fel Fuji, ond mynyddoedd a oedd serch hyny o bryd i’w gilydd yn ymgeledd ac yn lloches.

Ond – ond. Disgybl ydoedd, ac nid oedd ei feddwl na’i allu wedi cyraedd eu llawn dwf a’u ehangder, a’r canlyniad yd oedd iddo ddychmygu rhyw fath o genedyl anorffenedig, cenedyl druenus ar ei hanner, a chanddi orffenol maith ond pruddglwyfus, a heb fod ganddi ddim dyfodol.  Nid  oedd ganddi nemor ddim sefydliadau gwladol, ac yr oedd er’s canrifoedd  wedi goddef dan iau cenedyl estron, rymus. Yn wir, hwyed y bu dan yr iau hwnw nes ei bod wedi dechreu ei thwyllo ei hun i gredu ei bod bellach yn rhan o’r genedyl fwy hono, ac wedi cael ei henyn a’i hysgogi i gyflawni anfadwaith y genedyl fwy ar ei rhan. Haner-cenedyl oedd hon, ac yr oedd y Bwda yn bur siomedig  a galluoedd myfyrdodawl truenus ei ddisgybl. Dywedodd gymaint a hynyna wrtho; ‘Ond  y mae ganddynt eu hiaith eu hunain,’ dadleuodd y disgybl, ‘a thraddodiad hir ac anrhydeddus o lenyddiaeth yn yr iaith hono, ar gof a chadw a chlawr, a beirdd hyd y dydd i gynal y cof am y gogonianau a fu, a hen, hen grefydd.’ Atebodd y Bwda, ‘A yw hyny’n ddigon i greu cenedyl? Onid oes arni angen rhagor na thraddodiad, rhagor na hynafiaeth, er dyfod yn gyflawn aelod o genhedloedd y byd?’

Gwenodd y mynach, ac meddai wrthyf finau, ‘Cymru oedd y genedyl a ddychmygwyd gan y disgybl.’

Ni wenais inau yn ol arno.Yr oeddwn wedi’m cythruddo a’m cynhyrfu! Onid oeddwn i yno, yn sefyll o’i flaen, wired a’r dydd, yn Gymreicied merch ag a safodd ar dir y wlad hon erioed? Mae cenedyl y Cymry,  meddwn,  yn un fechan ond yn falch ac yn sicr mae hi’n bod. Nid penllanw dychymyg rhyw fynach iselwael ydyw. Unig ateb y mynach oedd iddo gymmeryd fy llaw inau, a’m tywys i groesi’r neuadd, ac yno yr oedd yr union dwll yn y piler pren – yr un faint a phledren mochyn yn wir.

Ond attolwg, protestiais, oni allwn inau siarad yr iaith Gymraeg ag ef? Onid oedd hyny yn brawf ynddo’i hun fod iaith y nefoedd a’i chartref yn bodoli? Daliodd yntau i wenu, gan ddadlau mai cyfres o symbolau a synau disynwyr ydoedd yr hyn a ddeuai o’m genau i i’w glust yntau. Ond llawer mwy amlwg iddo yntau o syllu arnaf, dadleuodd, oedd fy mod yn ymdebygu yn fy ngwisg a’m hosgo, a’m hymarweddiad – ie, a’m hiaith – i ferch o Japaniad. Nid oedd na chweryl na chasineb yn ei ddadyl, dim oll eithr tynerwch.

Cywilyddiais, a ffieiddiais. Yr oedd y mynach yn berffaith gywir. Yr wyf er’s tro wedi dod i ymddiosg o’m hen lieiniau a dilyn ffasiwn y llys, clymu’m gwallt yn gywrain bob bore a dechrau gosod, yn betrus, haenen denau hyd yn nod o bowdr gwyn ar fy ngruddiau. Fe’m gwelais fy hunan am yr hyn ydwyf bellach: deuthum yn Japaniad ac nid wyf Gymraes erbyn hyn (o leiaf, nid yn allanol). Ond ymdynghedais y dychwelwn, yn ol yn ffrog oreu Sabath fy mebyd, ag iaith fy nhadau ar fy min, a darluniau a llyfrau o’r henwlad i’w dangos iddo.

Nid oeddwn mor sicr o honof fy hun pan ddychwelais yn benisel i’r hen ddinas rai dyddiau yn ddiweddarach. O ba le’r oeddwn i wedi dod? Ai breuddwyd ehud fu Cymru oll? O, fy Leila, anfon ataf ar frys, fel y gallaf f’argyhoeddi fy hun nad rhith mohonot, mo’r wlad a fu yn bopeth i mi cyhyd, nad breuddwyd noson ydyw aberth Crist ar ei groes!

Yn daer fy nyhead, Dolores

 

 

A34

27 Mehefin, 1868 Anwyl Leila,

Y mae  yn ddrwg  genhyf  am yr  oedi mawr a fu er’s anfon fy llythr diweddaf, am y brys a’r gofid yr wyf yn ysgrifennu’r genadwri hon yn eu hyspryd, ac am y pethau y mae’n rheidrwydd arnaf  eu datgelu, wrth anfon hyn o air. Ond bu pethau mawr ar droed, a bu newid byd, yn wir, newid bydoedd. Ymddiheuraf hefyd os wyt yn ddiweddar wedi gweld yn dda i anfon ataf yn y Nijo-jo:– nid wyf yn gorphwyso yno bellach, ac ofnaf na welaf y lle byth mwy yn f’einioes.

Y mae yn atgas genhyf ddodi y geiriau hyn ar bapur, ond rhaid i’r gwir gael ei gofnodi yn  rhyw  le, hyd  yn  nod os digwydd y collir y gwir hwnw hyd y cefnfor. Leila, gwyddost fel yr ymdeflais yn llwyr a digyfaddawd i fuchedd ukiyo. Mor bell yr euthum o’m  magwraeth Gristionogawl! Ac mor gyflawn fy nghwymp. Mynegais wrthyt eisoes (ymaith a’r ‘chwi’ bellach, a’r lleiaf o’m camweddau fydd galw ‘ti’ arnat) y modd y deuthum i arfer yr onnayu beunyddiol, ac yno yn un o’r baddondai cyhoeddus y deuthum i adnabod ciwed o geiko. Bûm yn hynod ffri wrth ymfaddoni yn eu cwmni, y fath gyfforddusrwydd yn noethni ein gilydd nis teimlaswn erioed o’r blaen. Ond hyny ynddo’i hun nid oedd bechod eithaf, eithr rhagargoel o’r hyn a oedd eto i ddod. Yr oedd eu cwmni wedi deffro ynof chwant am felyster cnawd a nwyd am groen ifanc, meddal. Ac nid unrhyw gnawd ychwaith, eithr – o! y mae ei gofnodi yma ar yr untro yn arswyd ac yn rhyddhad! – cnawd merch. Leila, bu i minau ddyheu am dy groen dithau unwaith, a chyhoeddi hyny bellach ni’m dawr, cans gwn nas gwelaf di mwy.

Y gwir amdani, a minau yn fy hiraeth am danat, ydyw y’m daliwyd yn cydorwedd a Chihiro yn ei siambr. Ni allaf  ond arswydo wrth fy hyfdra a’m eofndra fy hunan, a hyd heddiw ni ddeallaf pam y gwneuthum fel ag a wneuthum, onid oedd  rhyw beth, a fu hyd yma yn  nghudd  ac yn gladdedig o’m mewn, wedi’i ddadorchuddio a’i ddatgladdu  gan y wlad ryfeddol hon a’i harferion. Yr oedd troedfilwyr yr ymherodr wedi clywed swn fy nhraed hyd y lloriau eos yn cripian tuag at siambr Chihiro. A minau’n llwyr grediniol imi gymryd pob gofal! Nis gwn a fydd hyn yn peri itti arswydo neu ffieiddio’n fwy ataf, Leila, ond fe’i caf yn rheidrwydd arnaf bwysleisio na theimlwn, ac na theimlaf, unrhyw gariad neu serch tuag at Chihiro. Atyniad corfforol ydoedd yn llwyr, ac atyniad a deimlai yn un cwbl naturiol yn noethni’r baddon ac yng ngwres llieiniau ei chastell, ond un ysydd bellach, a minau gryn bellter i ffwrdd, yn gwbl atgas genhyf. Ac eto ni allaf ond gwaedu drosti, hithau wedi ei dal a minau wedi dihengyd, a’i gobaith mynwesol o gael dyfod, maes o law, yn llawforwyn i’r ymherodr ei hun bellach yn deilchion!

Erbyn hyn, ar ol llwyddo i ddianc, yr wyf yma yn ymguddio yn Hakone, tref fechan ger godre mynydd Fuji lle llifa’r dwr yn danbaid o grombil y ddaear, a lle ffrydia ac y dihanga nid nepell o’r fan hon yn ddrewdod a swigod melyn. Bu’r daith yn hir a lluddedig, a’r ddringfa trwy’r troedfryniau coediog a llaith yn llafurus. Ymboenwn beunydd nad edrychwn fel pawb arall, y byddent yn fy erlid ymaith. Ond o! y fath wyleidd-dra a charedigrwydd a brofais ar bobtu. Bu bron i’r ddringfa fy niweddu. Ond cefais orphwys un nos yng nghartref hen wreigan, a blasu drachefn o’r hylif gwellhaol hwnw, y te gwyrdd. Euthum yn fy mlaen hyd ffyrdd y mynyddoedd nes dod yma i’r fath fangre neilltuedig nes na ddichon i luoedd yr ymherodr fy nghanfod. Cefais le mewn lletty diarffordd, nid nepell o’r llyn, ac yma yr wyf heb nemawr ddim trugareddau nac eiddo, yn cyfansoddi hyn o air yng ngolau lantern bapur. Yr wyf yn oer yma. Euthum o gwmni a bywiogrwydd a swn y llys ar amrantiad i fod yn unig, ar herw, yn Hakone’r mynyddoedd a’i ddyfroedd  byrlymus. Y mae chwa yr arogldarth wedi’i ddisodli gan arogl swlffwr. Ymguddiaf yma heb air na newydd o’r unlle, heb wybod beth yw hanes y llys yn Kyoto na neb o’m hen gyfeillion. Y mae gwr y lletty a rhai o drigolion y fangre wasgaredig hon yn ddigon caredig: ond y maent hefyd yn ddrwgdybus ohonof, ac er na fynant fy ngyrru ymaith, ni fynant ychwaith gael gormod a wnelo a mi, yn enwedig yn y dyddiau blin, rhyfelgar hyn. Dyna sydd yn anodd, fe gredaf – yr awydd arnaf o fod eisiau dianc oddi wrthyf fi fy hun at rywun arall. Gwnaf bopeth a dim ond mi fy hun yn gwmni – pa ryfedd pe down yn fy nhro i alaru ar y cwmni hwnw! Leila, yn fy nghywilidd, erfyniaf arnat bellach – os ydwyt am anfon gair, anfon ef yma i’r cyfeiriad hwn i loni yspryd pechadures fel myfi.

Dolores

Nodyn gyda llythyr A35

Ceir bwlch o gryn amser yn yr ohebiaeth rhwng llythyr A34 ac A35, ac ni ellir bod yn siŵr a oes rhai llythyrau ar goll ai peidio. Y mae’n ddigon posibl i Ms Morgan roi’r gorau i’w llythyra am gyfnod er mwyn peidio â chael ei darganfod. Posibilrwydd arall yw nad oedd y cyfryngau, yn ysgrifbin ac yn bapur neu femrwn, ar gael iddi. Mae’r llythyr nesaf sydd ar glawr yn hynod oherwydd ei fod wedi’i ysgrifennu mewn katakana, gwyddor fwyaf sylfaenol a syml yr iaith Siapanaeg a ddefnyddir yn aml i gyfleu geiriau a sillafau o ieithoedd estron; hyd y gwyddys, dyma’r unig ymgais estynedig erioed i ysgrifennu Cymraeg trwy ddefnyddio’r wyddor hon. Mae’r llythyr, o’i gyfieithu, yn ddyddiedig ‘wythfed niwrnod y nawfed mis’, y tro cyntaf i Dolores ddefnyddio’r system hon o ddyddio, sy’n golygu (yn ôl y calendr gorllewinol) 23 Hydref 1868.

 

 

 

A35

Wythfed niwrnod y nawfed mis, 1868 

F’anwylaf Leila,

Ysgrifenaf atat, er y gwn yn bur sicr bellach nad oes y fath berson a thithau’n bod, ac nad yw’r oriau a dreuliais yn dy gwmni ond megis breuddwyd a barodd dalm yn rhy faith wedi deffro. Nid wyf wedi derbyn gair genyt er fy nglaniad yma yn Nippon, a bûm yn ymboeni cyhyd ynghylch hyny; deallaf bellach nad oedd dichon erioed itti fy ateb, gan mai rhith ydwyt, brithlun o’m dychymyg fy hun.

Yr wyf wedi profi arlliw o’r heddwch mewnol a ddaw o ddwys fyfyrio ac o ddilyn ffyrdd y Bwda. Yma  yn y mynyddoedd lle tardd y dwr yn dwym y mae fy hunan ar fod yn gyflawn. Teimlaf fy mod eisoes wedi dringo Fuji, wedi bod ar daith hirfaith ac ar fin gweld y terfyn, ar fin cyraedd y copa.

Yr wyf yn dyheu bellach am un peth uwchlaw popeth arall, sef am gael dychwelyd i Nara, i ddiolch i’r mynach hwnw am ddatgelu imi yr hyn a wyddwn erioed yn fy nghalon, am amlygu imi rith yr hyn a ddychmygaswn ac a freuddwydiwn, ac am fy neffro i’m gwir fywyd. Fe’m galwyd o’r genedyl fechan hono ar gyrion Ewrob, y wlad nad yw’n bodoli ond ym myfyrdodau ac ym meddwl un mynach, er mwyn imi gael dychwelyd yma at Darddiad yr Haul. Gwn bellach na fu Cymru erioed ond yn fy mreuddwydion.

Ped elai’r llys i Edo, gallwn efallai fentro, ond odid, i lawr o’r mynyddoedd a chyrchu’r deml yn Nara. Cawn ddychwelyd i eistedd wrth droed y mynach, a rhoi fy enaid yn llwyr ger ei fron i fyfyrio weddill f’einioes, ac un dydd efallai dreiddio trwy’r twll hwnw at Nirfana. Ond cefais achlust nid ddeuddydd yn ol y coronwyd yr ymherodr yn Kyoto, ei ymherodres wrth ei ymyl a’i ordderch ar flaen ei osgordd. Beth a ddaeth o Chihiro, nis gwn. Y mae’r Ymerodraeth Fawr, Dai Nippon Teikoku, ar gyraedd ei hanterth, ac yn hyny caf ymfalchio. Ni ddymunaf ddim drwg i’r ymherodr nac i neb o’i lys. Ond i minau, nid oes dychwelyd i fod. Fel y saif, ni allaf weld ond un ddihangfa, ac yn hono efelychwyf y samurai eu hunain. Daeth yr ymherodr a dosbarth cyfan o arglwyddi i’w gliniau; pa obaith felly i genhades fel fi a freuddwydiodd cyhyd am genedyl na fodolai? Ond gallaf ddiweddu fy muchedd arnofiawl fel y gwnaethant hwythau, a thrwy hyny ddwyn rheolaeth, o leiaf, tros fy nhranc fy hun os nad tros fy nwthwn, a throi yn wyfyn.

Pe baet yn bodoli, Leila, byddwn yn egluro itti rywbeth y deuthum i’w ddysgu ac i’w ddeall yn bur ddiweddar. Gwnaf hyny yn awr, ac anfonaf hyn o lythr, rhag ofn y cyraedd ben ei daith yn rhywle, ar gyrion Ewrob lle mae godre’r tir yn ymgreinio i gefnfor cwbl wahanol i’r un a welaf inau yn mhell dros y gorwel ym Mae Sagami. Y mae gair arall yn bod yn yr iaith hon sydd i’r clyw yn gyfunsain â’r ukiyoy ffolais arno dro. Er mwyn egluro’r gwahaniaeth, rhaid imi yw troi at wyddor kanji. Sillefir ukiyo, sef y ‘Byd Arnofiawl’, fel a ganlyn: 浮世. Ond y mae i’r gair ukiyoystyr arall hefyd. Caiff ei sillafu 憂き世, ac y mae yn golygu ‘Byd Gofidus’. Hwn yw’r byd o ofid a galar ac alaeth, o farwolaeth ac aileni, y mae dilynwyr Bwda yn ymgyraedd i ddianc ohono. Yn fy ffolineb, Leila, ac mewn iaith wneud o gyrion Ewrob, ofnaf imi gymysgu’r ddeupeth hyn yn ddybryd, y byd arnofiawl a’r byd gofidus, heb dybio am enyd y gallai’r ddau, yn y pen draw, arwain i’r un man.

Yr eiddot, erioed,

Read more from the August 2019 issue
Like what you read? Help WWB bring you the best new writing from around the world.